Croeso i Swyddfa’r Post
Mae Swyddfa’r Post yn mabwysiadu’r egwyddor y bydd yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail cydraddoldeb wrth gyflawni busnes cyhoeddus yng Nghymru. Bu Cynllun Iaith Gymraeg gan Swyddfa’r Post ers 1997. Cymeradwywyd fersiwn diweddaraf ein Cynllun Iaith Gymraeg gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar 16 Rhagfyr 2011.
Anogir cwsmeriaid yng Nghymru y mae’n well ganddynt gyflawni eu busnes gyda ni yn Gymraeg i wneud hynny. Rydym yn ymroddedig i ddarparu gwasanaeth o’r un safon uchel yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd.
Rydym yn gweithio tuag at gynyddu’r nifer o gymwysiadau Cymraeg ar ein gwefan.
Cysylltu
Os hoffech wybod mwy am ein polisi iaith Gymraeg a chynnwys ein cynllun, cysylltwch os gwelwch yn dda â georgina.blair@postoffice.co.uk